Amdanom Ni
Mae Partneriaeth Natur y Fro yn rhan o rwydwaith drwy Gymru gyfan sy'n gweithio i helpu natur yn eu hardaloedd.
Ein gweledigaeth yw Bro sy'n gyfoethocach o ran bywyd gwyllt, lle mae pobl yn parchu ac yn mwynhau'r natur o'u cwmpas.
Ein cenhadaeth yw ailgysylltu pobl o bob rhan o'r sir â natur. Ein nod yw helpu pob agwedd ar gymdeithas i gymryd rhan mewn camau ymarferol dros natur.
Mae gan y bartneriaeth dros 60 o aelodau, gan gynnwys pawb o unigolion i fusnesau. Mae grŵp llywio o gynrychiolwyr o sefydliadau lleol yn arwain ein gwaith.
Rydym i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i ddatblygu a chyflawni Cynllun Gweithredu Adfer Natur y Fro.
Natur yn y Fro
Mae’r ddaeareg, y lleoliad arfordirol, a’r gwaith rheoli tir yn y Fro yn creu amrywiaeth gyfoethog o gynefinoedd. Mae hyn yn cynnwys rhai cynefinoedd prin iawn, e.e. y glaswelltiroedd calchog yn Old Castle Down a'r lagŵn heli yn Aberddawan. Ceir rhai rhywogaethau prin hefyd, gan gynnwys:
-
Britheg Frown
-
Pibydd Gwyrdd
-
Blodyn-ymenyn yr Ŷd
-
Sarth
-
Berdysyn Gwisgi
-
Cardwenynen
Ceir rhai cynefinoedd helaeth fel glaswelltiroedd arfordirol, yn ogystal â phocedi bach o natur. Mae hyd gwrychoedd hynafol / llawn rhywogaethau ac ymylon caeau âr hefyd o ddiddordeb.
Diogelu Natur yn y Fro
Yn y Fro, mae gennym rwydwaith o safleoedd 'dynodedig' (gwarchodedig). Mae dynodiadau cenedlaethol a rhyngwladol yn cynnwys:
-
Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA)
-
Ardaloedd Gwarchod Arbennig (AGA)
-
Safleoedd Ramsar
-
Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA).
Dyma 'emau' y rhwydwaith cadwraeth. Mae gennym hefyd warchodfeydd natur a pharciau gwledig.
Y tu hwnt i'n safleoedd gwarchodedig, mae cynefinoedd pwysig eraill yn cyfrannu at iechyd ein natur. Mae gwarchod a chyfoethogi’r cynefinoedd hyn yn rhan annatod o lwyddiant unrhyw gynllun i adfer natur yn y sir yn y dyfodol.