
Granitau Natur
Mae Partneriaeth Natur y Fro yn awyddus i gefnogi sefydliadau a grwpiau lleol ym Mro Morganwg gyda detholiad o Becynnau Cychwyn Natur a fydd yn cyflawni camau gweithredu ein Cynllun Gweithredu Adfer Natur.
Rhaid i'ch prosiect fod ar dir sydd ar gael i'r cyhoedd, ymgysylltu a chael effaith ar y gymuned leol a bod o fudd i fioamrywiaeth.
Mae Pecyn Cychwyn Cofnodi Natur a Phecynnau Creu Cynefinoedd ar gael i wneud cais amdanynt ac maent yn cynnwys:
-
Pecyn Cychwyn Draenog
-
Pecyn Cychwyn Ystlumod
-
Pecyn Cychwyn Cefnogi'r Swifts
-
Pecyn Cychwyn Blwch Adar
-
Pecyn Cychwyn Offer Perllan
-
Pecyn Cychwyn Dolydd
-
Pecyn Creu/Adfer Pwll
Mae cyllid y pecynnau hyn yn bosibl drwy’r Cynllun Mannau Lleol ar gyfer Natur, a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
Pecyn Dechrau Natur Partneriaeth Natur y Fro
Grant Prosiect Bioamrywiaeth
Mae ein Grant Bioamrywiaeth ar gael ar gyfer prosiectau mwy nad ydynt yn cyd-fynd â'r Pecynnau Dechrau Bioamrywiaeth. Llenwch y ffurflen mynegi diddordeb hon a'i chyflwyno i'r tîm i'w hystyried.
Bydd eich cais yn cael ei ystyried gan banel grantiau Partneriaeth Natur y Fro, sy'n cynnwys aelodau o’r Grŵp Llywio.
Cymhwysedd: Mae’n rhaid i'ch prosiect fod ar dir y gall y cyhoedd ei ddefnyddio, ymgysylltu â'r gymuned leol a chael effaith arni a bod o fudd i fioamrywiaeth.
Mae modd ariannu’r pecynnau dechrau a'r grant bioamrywiaeth trwy'r Cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

