Cydweithio i adfer natur yn y Fro
Amdanom Ni
Ein cenhadaeth yw ailgysylltu pobl o bob rhan o'r Fro â natur. Trwy weithio mewn partneriaeth, ein nod yw ymgysylltu â'r cyhoedd, grwpiau a sefydliadau cymunedol lleol, yn ogystal ag ysgolion a busnesau, i gymryd rhan wrth weithredu dros natur yn eu cymunedau.
 
Mae Partneriaeth Natur y Fro yn rhan o brosiect Partneriaethau Natur Lleol Cymru, sy'n cael ei gyd-lynu gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ac sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru; rhwydwaith drwy Gymru gyfan a grëwyd i warchod, hyrwyddo a chyfoethogi natur yn ein hardal leol.
Ein Nodau
Cynllun Gweithredu Adfer Natur
Datblygwyd y Cynllun Gweithredu Adfer Natur (CGAN) ar gyfer Bro Morgannwg i ddarparu fframwaith i unrhyw un sy'n cyflawni camau i warchod, diogelu a chyfoethogi natur yn y Fro. Pwy bynnag ydych chi, mae rhywbeth y gallwch ei wneud i helpu natur yn eich ardal leol, gall eich cyfranogiad yn y CGAN fod yn fawr neu'n fach gan fod pob gweithred yn cyfrif!
Ein Prosiectau
Tanysgrifiwch
Ymgyfarwyddwch â'n Polisi Preifatrwydd cyn cofrestru neu gysylltu â ni.