Cynllun Gweithredu Adfer Natur
Datblygwyd y Cynllun Gweithredu Adfer Natur (CGAN) ar gyfer Bro Morgannwg i ddarparu fframwaith i unrhyw un sy'n cyflawni camau i warchod, diogelu a chyfoethogi natur yn y Fro. Mae ein CGAN yn canolbwyntio ar 6 math eang o gynefinoedd gan gynnwys Coetir, Dŵr Croyw, Glaswelltir, Arfordirol, Amaethyddiaeth a Threfol. Nodwyd ystod o gamau gweithredu i gefnogi adferiad natur yn y Fro.
-
Mae Camau Gweithredu Craidd yn berthnasol i bob cynefin ar draws y Fro.
-
Mae camau gweithredu sy’n benodol i gynefinoedd wedi'u nodi ar gyfer pob math o gynefin.
-
Camau gweithredu ar gyfer grwpiau a sefydliadau
Ein Hamcanion
Mae 5 amcan y Cynllun Gweithredu Adfer Natur (CGAN) yn gwahodd partneriaid i weithio gyda'i gilydd i helpu natur. Gweithiodd Partneriaeth Natur y Fro gyda'i gilydd i ddatblygu CGAN y Fro. Byddwn yn defnyddio'r cynllun i arwain ein partneriaid wrth bennu eu blaenoriaethau ar gyfer gweithredu.
Camau Gweithredu
Bydd y camau gweithredu hyn yn llywio sut y byddwn yn cyflawni ein hamcanion er mwyn diogelu natur y Fro.