top of page
Grassland in teh Vale of Glamorgan Vale Nature Partnership

Glaswelltir

Mae amrywiaeth eang o laswelltiroedd gan amrywio o laswelltiroedd amaethyddol wedi'u gwella a’u haddasu’n fawr i ddolydd hynafol sy'n llawn rhywogaethau. Amcangyfrifir bod 950 hectar o laswelltiroedd 'heb eu gwella' neu 'wedi'u lled-wella' sy’n llawn bywyd gwyllt yn y Fro yn cyfateb i ddim ond 1% o adnodd Cymru. Mae gan laswelltiroedd werth diwylliannol a bywyd gwyllt sylweddol yn y Fro gan gyfuno â thir âr i greu clytwaith clasurol caeau. Mae glaswelltiroedd sy’n llawn rhywogaethau yn gartref i nifer ac amrywiaeth fawr o flodau gwyllt. Mae pob glaswelltir yn cynnal set o rywogaethau, gan gynnwys llawer o rywogaethau o blanhigion, anifeiliaid di-asgwrn cefn ac adar sydd dan fygythiad. 

 

 

Map Glaswelltir Bro Morgannwg
Greater Burnet Meadow Vale Nature Partnership

Camau Gweithredu 

Mapio glaswelltiroedd sy’n llawn rhywogaethau yn y Fro
Annog pori er lles cadwraeth fel dull o reoli glaswelltir
Hyrwyddo'r defnydd o hadau tarddiad lleol mewn prosiectau adfer glaswelltir
Codi proffil glaswelltiroedd mewn prosiectau newid hinsawdd
Cydweithio â Chyngor Bro Morgannwg a chymunedau i wella’r gwaith o reoli glaswelltiroedd
Glaswelltiroedd sy’n llawn rhywogaethau mewn ysgolion a gerddi cymunedol
Diogelu glaswelltiroedd sy’n llawn rhywogaethau rhag prosiectau plannu coed
Hyrwyddo a chynyddu cyfranogiad y cyhoedd yng Ngrŵp Dolydd Bro Morgannwg, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr
Gweithio gyda rheolwyr tir

Rhywogaethau

bottom of page