top of page
Arfordirol
Mae arfordir Bro Morgannwg yn 52.5 cilomedr o hyd ac yn cynnwys clogwyni caled a blaendraethau caregog fel ar hyd Arfordir Morgannwg, traethau graean a thywod yn Southerndown a'r Barri, amddiffynfeydd arfordirol o amgylch lleoedd fel Aberddawan a morfeydd heli a lagwnau heli gwasgaredig. Fel y ffin rhwng y tir a’r môr mae ein harfordiroedd yn darparu cynefinoedd pwysig i fywyd gwyllt morol ac arbenigwyr arfordirol fel y Frân Goesgoch a'r Wiber.
Camau Gweithredu
Hyrwyddo cofnodi rhywogaethau drwy gynlluniau cofnodi e.e. Shoresearch
Sesiynau glanhau traethau a'r arfordir
Cynyddu ymwybyddiaeth o fesurau bioddiogelwch
Grŵp Rhwydwaith Natur Arfordir Morgannwg
Rhywogaeth
bottom of page