top of page

Amaethyddiaeth
Mae Cymru'n llawn planhigion gwyllt sydd wedi datblygu ochr yn ochr â thyfu'r ddaear dros ganrifoedd lawer. Fodd bynnag, mae swm y tir âr wedi gostwng 75% yn ystod y 100 mlynedd diwethaf ac mae llawer o'r hyn sy'n weddill yn destun triniaeth gan chwynladdwyr sy'n cyfyngu ei werth i adar a phryfed. Bydd y ffordd y caiff tir ei ffermio yn y Fro, gan ddefnyddio dulliau traddodiadol fel gadael ymylon caeau heb eu trin, gweithredu newidiadau mwy 'modern' fel drilio hadau’n uniongyrchol i'r ddaear a defnyddio cnydau gorchudd i wella strwythur pridd a lleihau erydiad yn arwain at welliannau mawr i fywyd gwyllt y sir.

Camau Gweithredu
Hyrwyddo diogelu a rheoli cynefinoedd drwy gynlluniau ffermio cynaliadwy.
Gweithio gyda thirfeddianwyr i adfer a chadw cynefinoedd naturiol ar eu tir
Codi ymwybyddiaeth o effeithiau llygredd amaethyddol ac ymgyrchu dros ei leihau
Rheoli gwrychoedd
Rhywogaethau
















bottom of page